Doesn't suit? No problem! You can return items for up to 30 days
You won't go wrong with a gift voucher. The gift recipient can choose anything from our offer.
Up to 30 days for returns
(new edition of the Epic Welsh novel Marged by T. Glynne Davies, originally published in 1974)
"Fel hyn yr oedd bywyd wedi bod: fel hyn y byddai am hanner canrif wedyn nes i'r Rhyfel Mawr roi sgytiad i bawb a phopeth a throi'r dreflan fach unwaith eto yn rhan o'r byd mawr o'i chwmpas."
Pan aiff Marged Rowland at yr hen Sera Cesi i gael dweud ei ffortiwn, ychydig a ŵyr y graddau y bydd darogan y wrach honno'n rhagfynegi gweddill ei bywyd - ei pherthynas gyda'i gŵr, Ifan, a ffawd ei phlant, Gruff, Lora a Robat-jon.
Rhamant, trasiedi, rhyfela - mae'r nofel epig hon yn gyforiog ohonynt, ond mae yma hefyd ysgafnder a dychan, ac yn fwy na dim mae yma hanes: hanes Llanrwst ar droad yr ugeinfed ganrif, hanes chwalfa gymdeithasol y Rhyfel Byd Cyntaf, a hanes y werin Gymraeg mewn cyfnod cythryblus.
Marged oedd ail nofel y llenor a'r newyddiadurwr adnabyddus T. Glynne Davies (1926-1988), ac fe'i croesawyd adeg ei chyhoeddi'r tro cyntaf fel datblygiad o bwys hanesyddol i'r nofel Gymraeg. Cyflwyna'r argraffiad hwn olygiad cwbl newydd gan Peredur Glyn - ŵyr yr awdur - i gynulleidfa newydd ei mwynhau.
Hi! I'm Libroamiko, your book advisor.
How can I help you?